|
||
|
|
||
|
||
|
Tanau yn yr ardal |
||
|
Shwmae {FIRST_NAME}
Yn ddiweddar, rydym wedi gweld cynnydd mewn tanau glaswellt yn yr ardal, yn benodol o amgylch Parc Melyn Mynach yn Gorseinon. Gofynnwn i drigolion fod yn hynod wyliadwrus wrth ddelio ag eitemau a allai gychwyn tanau, ac i roi gwybod i ni am unrhyw weithgaredd amheus neu achosion o gynnau tân yn fwriadol. Gall tanau glaswellt achosi difrod difrifol i ardaloedd lleol, eiddo a bywyd gwyllt, yn ogystal â pheryglu diogelwch y criwiau tân sy'n cael eu galw i ddiffodd y tanau. Gall hefyd fod canlyniadau troseddol i unrhyw un a ganfyddir yn cynnau tanau yn fwriadol. Gofynnwn hefyd i rieni drafod tanau a diogelwch rhag tân gyda'u plant.
Cofiwch, nid adnodd i roi gwybod am droseddau yw De Cymru yn Gwrando. Os byddwch chi neu eich eiddo yn wynebu risg, neu os bydd trosedd yn digwydd, ffoniwch 999 mewn argyfwng. Oes angen i chi siarad â'r heddlu ond nid oes angen ymateb brys arnoch? Gallwch roi gwybod am fater ar-lein drwy ein gwefan https://www.south-wales.police.uk, anfonwch neges breifat atom drwy Sgwrs Fyw, neu ffoniwch 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. | ||
Reply to this message | ||
|
|






